Free Half Marathon running places

We're offering free charity running spaces to individuals for the Swansea, Cardiff and Llanelli Half Marathons.

If you are a running fanatic, or if you just love a challenge, you can enter the half marathons for free with St John Ambulance Cymru, as long as you pledge to raise a minimum of £220 in support of their charitable work in communities across Wales. When you sign up, the organisation can provide you with everything you may need to help you fundraise.

The funds you raise will go towards lifesaving first aid training in schools and community groups, fun and educational youth programmes for children aged 5+ and vital voluntary first aid cover at key events throughout the country. Raising funds for St John Ambulance Cymru means helping to make Wales a safer place for all.two guys running for st john ambulance cymru

31 year old Dave Newington ran the Cardiff Half Marathon for the charity last year. “My friends Warren, Lewis and I ran for St John Ambulance Cymru because we could see the brilliant work the charity does in the heart of Welsh communities. The three of us trained for the race together and it was a great way to motivate each other. If you have friends that enjoy running too, I would definitely recommend signing up together.” He said.

“After we signed up, we had great fundraising guidance from the fundraising team, who helped us set up our JustGiving page. We ended up raising £1100, £300 more than we expected!”

“All the hard work was worth it to know that the money was going to such great cause” he said.

St John Ambulance Cymru volunteers will be at all three half marathons providing first aid cover for those running and those spectating. A great reminder of why the charity’s work is so important to communities in Wales.

The half marathons are taking place in Swansea on 11th June, Llanelli on 24th September and Cardiff on 1st October. “There is very much still time to sign up and start your training” says Alan Drury, Community and Events Manager at St John Ambulance Cymru, “Not only will entering the half marathons help you to achieve a personal goal and challenge yourself, but it will also raise funds for a fantastic causeYour support really could mean the difference between a life lost and a life saved”.

If you’re interested in signing up for the Swansea, Cardiff or Llanelli Half Marathon, then please get in touch with our fundraising team at fundraising@sjacymru.org.uk call us on 02920 449626.

 


 

Lleoedd am ddim i redeg Hanner Marathon

 

Rydy ni'n cynnig lleoedd rhedeg elusennol am ddim i unigolion ar gyfer Hanner Marathons Abertawe, Caerdydd a Llanelli.

Os ydych yn ffanatig o redeg, neu wrth eich bodd â her, gallwch gymryd rhan yn yr hanner marathonau am ddim gydag St John Ambulance Cymru, cyn belled â’ch bod yn addo codi isafswm o £220 i’w cefnogi gyda gwaith elusennol mewn cymunedau ar draws Cymru. Pan fyddwch yn cofrestru, gall y sefydliad roi popeth y gallai fod ei angen arnoch i'ch helpu i godi arian.

Bydd yr arian a godwch yn mynd tuag at hyfforddiant cymorth cyntaf achub bywyd mewn ysgolion a grwpiau cymunedol, rhaglenni ieuenctid hwyliog ac addysgol i blant 5+ oed a chymorth cyntaf gwirfoddolwyr hanfodol mewn digwyddiadau allweddol ledled y wlad. Mae codi arian i St John Ambulance Cymru yn golygu helpu i wneud Cymru yn lle mwy diogel i bawb.

Rhedodd Dave Newington, 31, Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer yr elusen y llynedd. "Roedd fy ffrindiau Warren, Lewis a minnau yn rhedeg ar gyfer St John Ambulance Cymru oherwydd roedden ni'n gallu gweld y gwaith gwych mae'r elusen yn ei wneud yng nghalon cymunedau Cymreig. Roedd y tri ohonom ni'n hyfforddi ar gyfer y ras gyda'n gilydd ac roedd yn ffordd wych o ysgogi ein gilydd Os oes gennych chi ffrindiau sydd hefyd yn mwynhau rhedeg, byddwn yn bendant yn argymell ymuno.”

 “Ar ôl i ni gofrestru, cawsom arweiniad codi arian gwych gan y tîm codi arian, a helpodd ni i sefydlu ein tudalen JustGiving. Yn y diwedd fe wnaethom godi £1100, £300 yn fwy na’r disgwyl!”

"Roedd yr holl waith caled yn werth chweil i wybod bod yr arian yn mynd at achos mor wych"

   Bydd gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru ym mhob un o’r tri hanner marathon yn rhoi cymorth cyntaf i redwyr a gwylwyr. Atgof gwych o pam mae gwaith yr elusen mor bwysig i gymunedau yng Nghymru.

Cynhelir yr hanner marathonau yn Abertawe ar 11 Mehefin, Llanelli ar 24 Medi a Chaerdydd ar 1 Hydref.

“Mae digon o amser o hyd i gofrestru a dechrau eich hyfforddiant” meddai Alan Drury, Rheolwr Cymunedol a Digwyddiadau yn St John Ambulance Cymru, “Nid yn unig y bydd mynd i mewn i’r hanner marathon yn eich helpu i gyflawni nod personol a herio’ch hun, ond hefyd i godi arian ar gyfer achos gwych. Gallai eich cefnogaeth olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a gollwyd a bywyd a achubwyd”.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru ar gyfer Hanner Marathons Abertawe, Caerdydd neu Lanelli, yna cysylltwch â’n tîm codi arian yn fundraising@sjacymru.org.uk neu ffoniwch ni ar 02920 449626.

Published April 26th 2023

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer