Learn lifesaving skills with St John Ambulance Cymru during Save a Life September

SALS Campaign - Social Media Banners_Linkedin 1.png

St John Ambulance Cymru’s Save a Life September campaign is back, providing people with different ways to learn lifesaving first aid skills over the next month.

The Save a Life September campaign takes place each year, aiming to spread first aid knowledge with as many people as possible across social media and through free first aid demonstrations.

In Wales, the survival rate following an out of hospital cardiac arrest is less than 5%, compared to England at 10% and Scotland at 9%*.

St John Ambulance Cymru are aiming to change that by helping members of the public learn the simple skills that can help save a life if an emergency happens near them.

This year St John Ambulance Cymru are focusing on the key themes of CPR and defibrillator use, child and infant first aid, falls awareness and mental health first aid.

Each week the charity will be sharing key first aid advice with the public, as well as arranging free demonstrations in communities across Wales.

Darren Murray, Head of Community Operations at the charity, said:

“Here at St John Ambulance Cymru we are passionate about creating more lifesavers in Wales and Save a Life September is just one of the many ways we’re doing that.

“First aid can save lives and we want more people across the country to have the confidence to act quickly in an emergency.

“If you’re interested in booking a free demonstration session for your school, community group or club as part of the campaign, then please get in touch. Our St John Ambulance Cymru people can equip you with the skills required to support your friend, family or work colleague just in case the worst happens.”

To get involved in the Save a Life September campaign you could arrange a free demonstration, enrol in a free e-learning course, sign up to one of St John Ambulance Cymru’s certified workplace training courses or even make a donation to fund the charity’s essential work.

You can find out more on how you can get involved in Save a Life September by visiting www.sjacymru.org.uk/savfe-a-life-september today.

 

Dysgwch sgiliau achub bywyd gyda St John Ambulance Cymru yn ystod yr ymgyrch Achub Bywyd ym mis Medi

Mae ymgyrch Achub Bywyd ym mis Medi St John Ambulance Cymru yn ôl, gan ddarparu ffyrdd gwahanol i bobl dysgu sgiliau cymorth cyntaf mewn  dros y mis nesaf.

Mae ymgyrch Achub Bywyd ym mis Medi yn digwydd bob blwyddyn, gyda’r nod o ledaenu gwybodaeth cymorth cyntaf i gymaint o bobl â phosibl ar draws cyfryngau cymdeithasol a thrwy arddangosiadau cymorth cyntaf am ddim.

Yng Nghymru, mae’r gyfradd oroesi yn dilyn ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yn llai na 5%, i gymharu â 10% yn Lloegr a 9% yn yr Alban*.

Mae St John Ambulance Cymru yn anelu at newid hynny trwy helpu aelodau o'r cyhoedd i ddysgu'r sgiliau syml a all helpu i achub bywyd os bydd argyfwng yn digwydd yn eu hymyl.

Eleni mae St John Ambulance Cymru yn canolbwntio ar y themâu allweddol o CPR a defnyddio diffibriliwr, cymorth cyntaf plant a babanod, ymwybyddiaeth o gwympiadau a chymorth cyntaf iechyd meddwl.

Bob wythnos bydd yr elusen yn rhannu cyngor cymorth cyntaf allweddol gyda’r cyhoedd, yn ogystal â threfnu arddangosiadau am ddim mewn cymunedau ledled Cymru.

Meddai Darren Murray, Pennaeth Gweithrediadau Cymunedol yr elusen:

“Yma yn St John Ambulance Cymru rydym yn angerddol dros greu mwy o achubwyr bywydau yng Nghymru ac Achub Bywyd ym mis Medi yw un o’r ffyrdd niferus yr ydym yn gwneud hynny,” 

“Gall cymorth cyntaf achub bywydau ac rydym eisiau i fwy o bobl ledled y wlad gael yr hyder i weithredu’n gyflym mewn argyfwng.

“Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu sesiwn arddangos am ddim ar gyfer eich ysgol, grŵp cymunedol neu glwb fel rhan o’r ymgyrch, yna cysylltwch â ni. Gall ein pobl o St John Ambulance Cymru eich arfogi â’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi eich ffrind, teulu neu gydweithiwr rhag ofn i’r gwaethaf ddigwydd.”

I gymryd rhan yn ymgyrch Achub Bywyd ym mis Medi, gallech drefnu arddangosiad am ddim, cofrestru ar gwrs e-ddysgu am ddim, ymuno ag un o gyrsiau hyfforddi gweithle ardystiedig St John Ambulance Cymru neu hyd yn oed wneud cyfraniad i ariannu gwaith hanfodol yr elusen.

Gallwch ddarganfod mwy am sut y gallwch chi gymryd rhan yn Achub Bywyd ym mis Medi trwy fynd i www.sjacymru.org.uk/savfe-a-life-september heddiw.

Published August 30th 2024

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer