National Grid powers up partnership with the first aid charity for Wales

National Grid staff recently went the extra mile in support of the first aid charity for Wales, giving up their time to volunteer for St John Ambulance Cymru.

 

Several National Grid staff members helped out with vehicle cleaning, equipment checks and re-stocking at St John Ambulance Cymru’s Ambulance Operations HQ to ensure the vehicles were ready to support the local community.

 

The partnership between the two organisations began earlier this year, when National Grid sponsored 20 of St John Ambulance Cymru’s first aid demonstration sessions in schools across South Wales between January and April 2024. These sessions taught young people the basics of first aid and also highlighted electrical safety - invaluable knowledge that could help to save a life.

 

National Grid’s safety messages are focused around helping people avoid potential electrical dangers and with St John Ambulance Cymru’s activity teaching the people of Wales lifesaving skills that can be used in an emergency, the partnership makes perfect sense.

 

James Cordell, Relationship and Partnership Manager at St John Ambulance Cymru commented: “We were delighted to have members of National Grid’s workforce volunteer with us recently, it was great to see them so eager to help.

 

“National Grid have been a huge support to our charity this year, supporting our free first aid demonstrations in schools and now helping out with our Ambulance Operations department which supports the NHS and members of the community who need our care.

 

“A huge thanks to everyone at National Grid for your ongoing help, enabling us to further support communities in Wales and ultimately save more lives. We’re looking forward to continuing our work together in the future!”

 

Emily Green, Volunteering and Sponsorship Coordinator at National Grid added: “We are proud to support this lifesaving charity which helps so many of the local communities and customers that we serve across South Wales. This perfect partnership supports our ongoing commitment to educate children on electrical safety and grow our relationship with local schools.

 

“Several of our employees were delighted to visit St John Ambulance Cymru’s Ambulance Operations HQ and give their time through our new employee volunteering programme. We are committed to supporting local charities and community groups and look forward to continuing our support of St John Ambulance Cymru.”

 

Both organisations are looking forward to working together further, to continue their work keeping communities in Wales safe.

You can find out more St John Ambulance Cymru’s lifesaving work by visiting www.sjacymru.org.uk.

You can also find out about National Grid Electricity Distribution, the electricity distribution network operator for South Wales, South West and the Midlands at www.nationalgrid.co.uk.

 

 


 

Y Grid Cenedlaethol yn parhau ei bartneriaeth ag elusen cymorth cyntaf Cymru

 

Yn ddiweddar, aeth staff y Grid Cenedlaethol yr ail filltir i gefnogi elusen cymorth cyntaf Cymru, gan roi o’u hamser i wirfoddoli i St John Ambulance Cymru.

 

Bu sawl aelod o staff y Grid Cenedlaethol yn helpu gyda glanhau cerbydau, gwirio offer ac ailstocio ym Mhencadlys Gweithrediadau Ambiwlans St John Ambulance Cymru i sicrhau bod y cerbydau’n barod i gefnogi’r gymuned leol.

 

Dechreuodd y bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad yn gynharach eleni, pan noddodd y Grid Cenedlaethol 20 o sesiynau arddangos cymorth cyntaf St John Ambulance Cymru mewn ysgolion ar draws De Cymru rhwng Ionawr ac Ebrill 2024. Roedd y sesiynau hyn yn dysgu hanfodion cymorth cyntaf i bobl ifanc a hefyd yn amlygu diogelwch trydanol - gwybodaeth amhrisiadwy a allai helpu i achub bywyd.

 

Mae negeseuon diogelwch y Grid Cenedlaethol yn canolbwyntio ar helpu pobl i osgoi peryglon trydanol posibl a gyda gweithgaredd St John Ambulance Cymru yn dysgu sgiliau achub bywyd i bobl Cymru y gellir eu defnyddio mewn argyfwng, mae’r bartneriaeth yn gwneud synnwyr perffaith.

 

Dywedodd James Cordell, Rheolwr Perthynas a Phartneriaeth yn St John Ambulance Cymru: “Roeddem yn falch iawn o gael aelodau o weithlu'r Grid Cenedlaethol yn gwirfoddoli gyda ni yn ddiweddar, roedd yn wych fod nhw mor awyddus i helpu.

 

“Mae’r Grid Cenedlaethol wedi bod yn gefnogaeth enfawr i’n helusen eleni, yn cefnogi ein harddangosiadau cymorth cyntaf am ddim mewn ysgolion a nawr yn helpu gyda’n hadran Gweithrediadau Ambiwlans, sy’n cefnogi’r GIG ac aelodau o’r gymuned sydd angen ein gofal.

 

“Diolch yn fawr iawn i bawb yn y Grid Cenedlaethol am eich cymorth parhaus, gan ein galluogi i gefnogi cymunedau yng Nghymru ymhellach ac yn y pen draw achub mwy o fywydau. Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gyda’n gilydd yn y dyfodol!”

 

Ychwanegodd Emily Green, Cydlynydd Gwirfoddoli a Nawdd gyda’r Grid Cenedlaethol: “Rydym yn falch o gefnogi’r elusen achub bywyd hon sy’n helpu cymaint o’r cymunedau lleol a’r cwsmeriaid rydym yn eu gwasanaethu ar draws De Cymru. Mae’r bartneriaeth berffaith hon yn cefnogi ein hymrwymiad parhaus i addysgu plant am ddiogelwch trydanol a thyfu ein perthynas ag ysgolion lleol.

 

“Roedd nifer o’n gweithwyr wrth eu bodd yn ymweld â Phencadlys Gweithrediadau St John Ambulance Cymru a rhoi o’u hamser trwy ein rhaglen wirfoddoli newydd i'n gweithwyr. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi elusennau lleol a grwpiau cymunedol ac edrychwn ymlaen at barhau â’n cefnogaeth i St John Ambulance Cymru.”

 

Mae’r ddau sefydliad yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach, i barhau â’u gwaith yn cadw cymunedau yng Nghymru yn ddiogel.

Gallwch ddarganfod mwy am waith achub bywyd St John Ambulance Cymru trwy fynd I www.sjacymru.org.uk.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am Ddosbarthiad Trydan y Grid Cenedlaethol, gweithredwr rhwydwaith dosbarthu trydan De Cymru, De Orllewin a Chanolbarth Lloegr yma: www.nationalgrid.co.uk.

Published July 23rd 2024

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer