This International Paramedics Day, St John Ambulance Cymru are remembering the late Gerallt Davies MBE, CStJ, a committed volunteer of over forty years and a dedicated paramedic with the Welsh Ambulance Service NHS Trust. St John Ambulance Cymru are honouring him through a new award for operational service which will be presented at their International Paramedics Day Thanksgiving Service at St John the Baptist Church in Cardiff on Saturday 8th July.
Gerallt Davies joined St John Ambulance Cymru as a child, signing up as a Cadet. He dedicated years of his life to the organisation and left a lasting legacy within the charity, particularly in operational service. A previous County Commissioner for West Glamorgan, Gerallt went on to become a National Operations Officer where his experience and knowledge were invaluable. Gerallt played a huge role in setting up Swansea’s help point, an initiative to assist members of the public in the night-time economy – now renamed in his memory as the Gerallt Davies Help Point. Gerallt was a wonderful paramedic and volunteer, who had a positive influence on the volunteers and staff at St John Ambulance Cymru and the wider community. Gerallt passed away in 2020 after contracting Covid-19. St John Ambulance Cymru have set up the new award to remember him and to celebrate an individual who represents what Gerallt stood for.
Beth Francis, Assistant Chief Volunteer at St John Ambulance Cymru, commented
“Gerallt will be fondly remembered as a pioneer in operational service delivery. His impact on what is now known as the Gerallt Davies Help Point is outstanding and has set the standard for similar models across Wales.”
The Gerallt Davies MBE, CStJ Memorial award for Operational Service, will be awarded to an active volunteer or staff member who encompasses all of Gerallt’s positive qualities. The individual should be dedicated, professional and keen to maintain and develop the highest standards, whilst engaging and leading their colleagues. Individuals at St John Ambulance Cymru have been nominated over the past few weeks based on a specific criteria around team working and leadership, quality of service and care to patients, professionalism and commitment to volunteering. Nominees will be judged by a panel inclusive of St John Ambulance Cymru officers, external partners and a member of Gerallt’s family before receiving the award this weekend.
The award is a great way to continue Gerallt’s legacy whilst encouraging the very best from St John Ambulance Cymru’s people. As Gerallt was a passionate, kind individual, committed to his role as a paramedic, the award very much represents the values of our paramedic heroes this International Paramedics Day.
The International Paramedics Day Thanksgiving Service will take place on Saturday 8th July at 6.30pm, at St John the Baptist Church in Cardiff. The service is being held in partnership between St John Ambulance Cymru and the Welsh Ambulance Service NHS Trust. If you’d like to find out more about the event, please contact chief.volunteer@sjacymru.org.uk.
Mae St John Ambulance Cymru yn anrhydeddu un o'u diweddar arwyr gwirfoddol y Diwrnod Parafeddygon hwn
Y Diwrnod Parafeddygon Rhyngwladol hwn, mae St John Ambulance Cymru yn cofio am y diweddar Gerallt Davies MBE, CStJ, gwirfoddolwr ymroddedig ers dros ddeugain mlynedd a pharafeddyg ymroddedig gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae St John Ambulance Cymru yn ei anrhydeddu trwy wobr newydd am wasanaeth gweithredol a gyflwynir yn eu Gwasanaeth Diolchgarwch Diwrnod Parafeddygon Rhyngwladol yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 8fed Gorffennaf.
Ymunodd Gerallt Davies ag St John Ambulance Cymru yn blentyn, gan gofrestru fel Cadet. Cysegrodd flynyddoedd o'i fywyd i'r sefydliad a gadawodd etifeddiaeth barhaol o fewn yr elusen, yn enwedig mewn gwasanaeth gweithredol. Yn gyn Gomisiynydd Sirol Gorllewin Morgannwg, aeth Gerallt ymlaen i fod yn Swyddog Gweithrediadau Cenedlaethol lle’r oedd ei brofiad a’i wybodaeth yn amhrisiadwy. Chwaraeodd Gerallt ran enfawr wrth sefydlu pwynt cymorth Abertawe, menter i gynorthwyo aelodau’r cyhoedd yn yr economi nos – sydd bellach wedi’i ailenwi er cof amdano fel Man Cymorth Gerallt Davies.
Roedd Gerallt yn barafeddyg a gwirfoddolwr bendigedig, a gafodd ddylanwad cadarnhaol ar y gwirfoddolwyr a staff yn St John Ambulance Cymru a’r gymuned ehangach. Bu farw Gerallt yn 2020 ar ôl contractio Covid-19. Mae St John Ambulance Cymru wedi sefydlu’r wobr newydd i’w gofio ac i ddathlu unigolyn sy’n cynrychioli’r hyn roedd Gerallt yn sefyll drosto.
Dywedodd Beth Francis, Prif Wirfoddolwr Cynorthwyol yn St John Ambulance Cymru,
“Bydd Gerallt yn cael ei gofio’n annwyl fel arloeswr ym maes darparu gwasanaethau gweithredol. Mae ei effaith ar yr hyn a elwir bellach yn Fan Cymorth Gerallt Davies yn rhagorol ac wedi gosod y safon ar gyfer modelau tebyg ledled Cymru.”
Bydd gwobr Goffa Gerallt Davies MBE, CStJ am Wasanaeth Gweithredol, yn cael ei dyfarnu i wirfoddolwr gweithgar neu aelod o staff sy’n cwmpasu holl rinweddau cadarnhaol Gerallt. Dylai'r unigolyn fod yn ymroddedig, yn broffesiynol ac yn awyddus i gynnal a datblygu'r safonau uchaf, wrth ymgysylltu â'u cydweithwyr a'u harwain. Mae unigolion yn St John Ambulance Cymru wedi cael eu henwebu dros yr ychydig wythnosau diwethaf yn seiliedig ar feini prawf penodol yn ymwneud â gweithio mewn tîm ac arweinyddiaeth, ansawdd gwasanaeth a gofal i gleifion, proffesiynoldeb ac ymrwymiad i wirfoddoli. Bydd yr enwebeion yn cael eu beirniadu gan banel sy’n cynnwys swyddogion St John Ambulance Cymru, partneriaid allanol ac aelod o deulu Gerallt cyn derbyn y wobr y penwythnos hwn.
Mae’r wobr yn ffordd wych o barhau ag etifeddiaeth Gerallt tra’n annog y gorau oll gan bobl St John Ambulance Cymru. Gan fod Gerallt yn unigolyn angerddol, caredig, wedi ymrwymo i’w rôl fel parafeddyg, mae’r wobr yn cynrychioli gwerthoedd ein harwyr parafeddygol yn fawr iawn ar Ddiwrnod Rhyngwladol Parafeddygon.
Cynhelir Gwasanaeth Diolchgarwch Diwrnod Rhyngwladol y Parafeddygon ar ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf am 6.30pm, yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng Nghaerdydd. Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal mewn partneriaeth rhwng St John Ambulance Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Os hoffech chi gael gwybod mwy am y digwyddiad, cysylltwch â chief.volunteer@sjacymru.org.uk.