St John Ambulance Cymru Impact Report highlights contribution to communities in Wales

St John Ambulance Cymru is marking St John’s Day (June 24th) by launching its latest Impact Report, which highlights how the first aid charity for Wales helped tens of thousands of people last year.

The annual report includes stories of lives saved by St John People, our fantastic youth activity, key statistics and public feedback that demonstrate the crucial difference the charity made in communities across the country in 2023.

The report also includes key figures showing the number of people who gained new skills by attending a Workplace Training course or a free first aid demonstration, as well as the thousands of patients helped via patient transport and the charity’s front-line schemes such as our Falls Response.

St John Ambulance Cymru’s Chief Executive Officer, Richard Lee MBE CStJ QAM FIMC FCPara, said:

“This powerful report illustrates the lifesaving contribution that our St John People made in your community in 2023.

“I couldn’t be more proud of everything our people do day in day out whether it’s our first aiders and healthcare professionals at events, our youth leaders, our ambulance and falls teams or the people behind the scenes who train the public and our people, fundraise and keep the charity running. It really is a team effort.

“St John’s Day is the ideal day to publish this report and show how the first aid charity for Wales is playing its part in the global work of the St John family.”

The report also includes information on the number of St John Ambulance Cymru Volunteers who have developed their skills and been rewarded for their efforts, from Children and Young People aged 5 and above, through to volunteers who have dedicated decades of service.

St John’s Day is marked by members of the St John International family all over the world each year, with the celebrations including a special service at St Paul’s Cathedral.

Click here to download the latest St John Ambulance Cymru Impact Report.

 

Adroddiad Effaith St John Ambulance Cymru yn amlygu cyfraniad yr elusen i gymunedau yng Nghymru

Mae St John Ambulance Cymru yn nodi Dydd Sant Ioan (Mehefin 24ain) drwy lansio ei Adroddiad Effaith diweddaraf, sy’n amlygu sut y gwnaeth elusen cymorth cyntaf Cymru helpu degau o filoedd o bobl y llynedd.

Mae’r adroddiad blynyddol yn cynnwys straeon am fywydau a achubwyd gan Bobl St John, ein gweithgarwch ieuenctid gwych, ystadegau allweddol ac adborth cyhoeddus sy’n dangos y gwahaniaeth hollbwysig a wnaeth yr elusen mewn cymunedau ledled y wlad yn 2023.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys ffigurau allweddol sy’n dangos nifer y bobl a enillodd sgiliau newydd drwy fynychu cwrs Hyfforddiant yn y Gweithle neu arddangosiad cymorth cyntaf am ddim, yn ogystal â’r miloedd o gleifion a gafodd gymorth drwy gludiant cleifion a chynlluniau rheng flaen yr elusen fel ein Hymateb Cwympiadau.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol St John Ambulance Cymru, Richard Lee MBE CStJ QAM FIMC FCPara: 

“Mae’r adroddiad pwerus hwn yn dangos y cyfraniad achub bywyd a wnaeth ein pobl yn eich cymuned yn 2023.

“Ni allwn fod yn fwy balch o bopeth y mae ein pobl yn ei wneud o ddydd i ddydd. Boed yn swyddogion cymorth cyntaf a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn digwyddiadau, ein harweinwyr ieuenctid, ein timau ambiwlans a chwympiadau, neu’r bobl y tu ôl i’r llenni sy’n hyfforddi’r cyhoedd a’n pobl, codi arian a chadw’r elusen i redeg. Mae'n ymdrech tîm go iawn.

“Dydd Sant Ioan yw’r diwrnod delfrydol i gyhoeddi’r adroddiad hwn a dangos sut mae elusen cymorth cyntaf Cymru yn chwarae ei rhan yng ngwaith byd-eang teulu St John.”

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y nifer o Wirfoddolwyr St John Ambulance Cymru sydd wedi datblygu eu sgiliau a chael eu gwobrwyo am eu hymdrechion, o Blant a Phobl Ifanc 5 oed a hŷn, hyd at wirfoddolwyr sydd wedi ymroi degawdau o wasanaeth.

Mae Dydd Sant Ioan yn cael ei nodi gan aelodau o deulu St John International ar draws y byd bob blwyddyn, gyda’r dathliadau’n cynnwys gwasanaeth arbennig yn Eglwys Gadeiriol St Paul’s.

Cliciwch yma i lawrlwytho Adroddiad Effaith diweddaraf St John Ambulance Cymru.

Published June 24th 2024

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer