St John Ambulance Cymru have been commissioned to support the Welsh Ambulance Service NHS Trust in a ‘Virtual Ward’ project with Community Welfare Responders. The scheme will see qualified volunteers acting as first responders to 999 calls, to help ease pressure on the NHS.
The scheme is focussed on helping to provide more information to clinicians for people who have dialled 999 and are waiting for a response. The pilot scheme will initially be rolled out in four health boards - Betsi Cadwaladr, Aneurin Bevan, Hywel Dda and Swansea Bay. St John Ambulance Cymru volunteers will support Welsh Ambulance Services NHS Trust clinicians to enhance their remote clinical decision-making capabilities, providing them with the latest clinical information to support informed decision making and to provide patients in our communities with more appropriate access to care options.
The scheme will be coordinated by the Welsh Ambulance Service’s Clinical Contact Centre, who will assess calls and then alert St John Ambulance Cymru’s Community Welfare Responders to incidents where there are opportunities to provide care closer to home, or improve patient experience. The Community Welfare Responders would then attend the scene and assess the patient, feeding back the information to clinicians in the Clinical Contact Centre who will determine the best course of action for the patient.
The aim of the scheme is to support the Welsh Ambulance Services NHS Trust, and to reduce waiting times by responding to calls where an ambulance conveyance to an emergency department might not be required, and additional patient observations from the scene will enable remote clinicians to determine a more appropriate treatment plan. This enables patients to remain at home where appropriate and be assessed quicker thus reducing strain on Emergency Departments, where treatment in hospital is not required.
Benjamin Savage, Chief Operating Officer, at St John Ambulance Cymru said, “This is such an incredible project, and we are so proud to be involved.
At a time of extreme pressure on our health care services, which is likely to increase into the winter months, it is more important than ever that, where possible, we keep people out of our hospitals in a safe and controlled manner, and allow our partners in the Welsh Ambulance Services NHS Trust to respond to the people in most severe need.
We are excited for the potential of this scheme to be rolled out across the whole of Wales which will allow us to live out our vision to be there for everyone, anytime, anywhere. We look forward to seeing how this pilot project develops and the positive impact it has on the people and communities we serve. It’s an honour to be part of something so innovative and ground-breaking.”
Since launching the pilot scheme, early indicators are already demonstrating the positive impact Community Welfare Responders are having on reducing the need for an ambulance in less urgent cases. It is hoped that following continued evaluation, the scheme will be extended to support the increased pressures placed on both the Ambulance Service and hospitals in Wales during the winter period and beyond.
We are always looking to recruit new volunteers to support our work across Wales. If you would like to volunteer for St John Ambulance Cymru register your interest at Register - St John Ambulance Cymru - Member Services (sjaw.org.uk) or email peopleservices@sjacymru.org.uk .
******************************************************************************************************************************************
Mae St John Ambulance Cymru yn arwain y ffordd mewn menter gofal iechyd sy'n torri tir newydd.
Mae St John Ambulance Cymru wedi’u comisiynu i gefnogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru mewn prosiect ‘Ward Rithwir’ gydag Ymatebwyr Lles Cymunedol. Bydd y cynllun yn gweld gwirfoddolwyr cymwys yn gweithredu fel ymatebwyr cyntaf i alwadau 999, i helpu i leddfu pwysau ar y GIG.
Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar helpu i ddarparu mwy o wybodaeth i glinigwyr ar gyfer pobl sydd wedi ffonio 999 ac sy'n aros am ymateb. Bydd y cynllun peilot yn cael ei gyflwyno mewn pedwar bwrdd iechyd i ddechrau - Betsi Cadwaladr, Aneurin Bevan, Hywel Dda a Bae Abertawe. Bydd gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru yn cefnogi clinigwyr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i wella eu gallu i wneud penderfyniadau clinigol o bell, gan roi’r wybodaeth glinigol ddiweddaraf iddynt i gefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus ac i roi mynediad mwy priodol i ddewisiadau gofal i gleifion yn ein cymunedau.
Bydd y cynllun yn cael ei gydlynu gan Ganolfan Cyswllt Clinigol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a fydd yn asesu galwadau ac yna’n hysbysu Ymatebwyr Lles Cymunedol St John Ambulance Cymru am ddigwyddiadau lle mae cyfleoedd i ddarparu gofal yn nes at y cartref, neu wella profiad cleifion. Byddai'r Ymatebwyr Lles Cymunedol wedyn yn mynychu'r lleoliad ac yn asesu'r claf, gan fwydo'r wybodaeth yn ôl i glinigwyr yn y Ganolfan Cyswllt Clinigol a fydd yn penderfynu ar y camau gweithredu gorau i'r claf.
Nod y cynllun yw cefnogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a lleihau amseroedd aros drwy ymateb i alwadau lle nad oes angen cludo ambiwlans i adran achosion brys o bosibl, a bydd arsylwadau cleifion ychwanegol o’r lleoliad yn galluogi clinigwyr o bell i benderfynu cynllun triniaeth mwy priodol. Mae hyn yn galluogi cleifion i aros gartref lle bo'n briodol a chael eu hasesu'n gyflymach gan leihau'r straen ar Adrannau Achosion Brys, lle nad oes angen triniaeth yn yr ysbyty.
Dywedodd Benjamin Savage, Prif Swyddog Gweithredu, yn St John Ambulance Cymru, “Mae hwn yn brosiect mor anhygoel, ac rydym mor falch o fod yn rhan ohono.
Ar adeg o bwysau aruthrol ar ein gwasanaethau gofal iechyd, sy’n debygol o gynyddu i mewn i misoedd y gaeaf, mae’n bwysicach nag erioed ein bod, lle bo modd, yn cadw pobl allan o’n hysbytai mewn modd diogel a rheoledig, ac yn caniatáu i’n partneriaid yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ymateb i’r bobl sydd â’r angen mwyaf difrifol.
Rydym yn edrych ymlaen at weld potensial y cynllun hwn yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan a fydd yn caniatáu inni fyw ein gweledigaeth i fod yno i bawb, unrhyw bryd, unrhyw le. Edrychwn ymlaen at weld sut mae’r prosiect peilot hwn yn datblygu a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei gael ar y bobl a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae’n anrhydedd bod yn rhan o rywbeth mor arloesol ac sy’n torri tir newydd.”
Ers lansio'r cynllun peilot, mae dangosyddion cynnar eisoes yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae Ymatebwyr Lles Cymunedol yn ei chael ar leihau'r angen am ambiwlans mewn achosion llai brys. Y gobaith yw, yn dilyn gwerthusiad parhaus, y bydd y cynllun yn cael ei ymestyn i gefnogi'r pwysau cynyddol a roddir ar y Gwasanaeth Ambiwlans ac ysbytai Cymru yn ystod cyfnod y gaeaf a thu hwnt.
Rydym bob amser yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr newydd i gefnogi ein gwaith ledled Cymru. Os hoffech chi wirfoddoli i St John Ambulance Cymru cofrestrwch eich diddordeb yn Cofrestru - St John Ambulance Cymru - Gwasanaethau Aelodau (sjaw.org.uk) neu e-bostiwch peopleservices@sjacymru.org.uk .