As the 2022 Autumn Internationals fill the streets of Cardiff, with large crowds packing into Principality Stadium, the last thing on a spectator’s mind is “what happens if I fall ill?” But St John Ambulance Cymru are on hand to keep everyone as safe as possible whilst enjoying the rugby.
St John Ambulance Cymru have been proudly supporting Principality Stadium for over 20 years, keeping crowds safe at sporting events like the rugby internationals and the Six Nations, and concerts from Ed Sheeran to Coldplay. It’s not just inside the Stadium which is covered by volunteers, but also its surrounding streets.
Richard Brake, National Event Planner for the organisation, explains that because of road closures on big match days, volunteers support the Welsh Ambulance Services Trust in the surrounding areas if something goes wrong. Richard explains that the average event in Principality Stadium usually requires a team of 50-60 volunteers. These individuals give up their free time to ensure crowds have first aid support at some of Wales’ most exciting events.
For the spectators at Principality Stadium, match day may start an hour or two before kick-off, as people make their way into the city centre. For St John Ambulance Cymru volunteers, a match day starts hours before; prepping their vehicles, checking equipment and listening to a briefing on the event ahead.
Volunteers listening to their briefing from Richard.
The volunteers are located at 12 first aid points which are dotted around Principality Stadium, as well as the main treatment centre downstairs. The public are brought to first aid points by stewards if they feel unwell and are treated efficiently and with care. If a spectator requires first aid support on the spot, a St John Ambulance Cymru response team will head into the crowd to deliver treatment.
Two volunteers at their first aid point.
One individual covering the Wales v Argentina game this month explained the breadth of different incidents that they respond to:
“It ranges massively, there is a cross-section of society in the building at any one time, so it’s vital we’re prepared for anything.”
Leigh Beere, the National Events Operations Manager at St John Ambulance Cymru continually walks around the Stadium as it filled up for the Wales v Argentina game, checking volunteers have what they need. She explains;
“These people are giving up their free time to help out, so we want to make their experience the best it can be”.
Mark Williams, Principality Stadium Manager, says:
“St John Ambulance Cymru have provided an essential service to Principality Stadium for over 20 years. We would like to offer a heartfelt thankyou to St John Ambulance Cymru and the hundreds of volunteers who offer their time and expertise at every event. They play an important part in making sure the spectator experience is a safe and enjoyable one”.
When planning a day at the rugby, needing first aid is not normally something people worry about, but St John Ambulance Cymru is there to ensure that if something does go wrong, supporters are in the best possible hands.
If you're at the Principality Stadium and start to feel unwell, be sure to notify a steward who will alert St John Ambulance Cymru.
If you’d like to fund more of our lifesaving work, please donate at www.sjacymru.org.uk. Your donations will help to train more individuals in vital first aid skills.
Some of the St John Ambulance Cymru volunteer team at Wales v Argentina.
Mae St John Ambulance Cymru yn cefnogi'r Rygbi Rhyngwladol am flwyddyn arall
Wrth i Gemau Rhyngwladol yr Hydref 2022 lenwi strydoedd Caerdydd, gyda thorfeydd mawr yn pacio i Stadiwm Principality, y peth olaf ar feddwl cefnogwr yw “beth sy’n digwydd os byddaf yn teimlo'n dost?”
Ond mae St John Ambulance Cymru wrth law i gadw pawb mor ddiogel â phosib tra'n mwynhau'r rygbi.
Mae St John Ambulance Cymru wedi bod yn cefnogi Stadiwm Principality yn falch ers dros 20 mlynedd, gan gadw torfeydd yn ddiogel mewn digwyddiadau chwaraeon fel y gemau rygbi rhyngwladol a’r Chwe Gwlad, a chyngherddau o Ed Sheeran i Coldplay. Nid dim ond y tu mewn i’r Stadiwm sy’n cael ei orchuddio gan wirfoddolwyr, ond hefyd y strydoedd cyfagos.
Mae Richard Brake, Cynlluniwr Digwyddiadau Cenedlaethol y mudiad, yn esbonio, oherwydd cau ffyrdd ar ddiwrnodau gemau mawr, fod gwirfoddolwyr yn cefnogi Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn yr ardaloedd cyfagos os aiff rhywbeth o'i le. Mae Richard yn esbonio bod digwyddiad cyffredin yn Stadiwm Principality fel arfer yn gofyn am dîm o 50-60 o wirfoddolwyr. Mae’r unigolion hyn yn rhoi o’u hamser rhydd i sicrhau bod torfeydd yn cael cymorth cyntaf yn rhai o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous Cymru.
I’r gwylwyr yn Stadiwm Principality, gall diwrnod gêm ddechrau awr neu ddwy cyn y gic gyntaf, wrth i bobl wneud eu ffordd i ganol y ddinas. Ar gyfer gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru, mae diwrnod gêm yn dechrau oriau ynghynt; paratoi eu cerbydau, gwirio offer a gwrando ar sesiwn friffio ar y digwyddiad sydd i ddod.
Mae’r gwirfoddolwyr wedi’u lleoli mewn 12 pwynt cymorth cyntaf sydd wedi’u gwasgaru o amgylch Stadiwm Principality, yn ogystal â’r brif ganolfan driniaeth i lawr y grisiau. Mae stiwardiaid yn dod â'r cyhoedd i fannau cymorth cyntaf os ydynt yn teimlo'n dost ac yn cael eu trin yn effeithlon a chyda gofal. Os oes angen cymorth cymorth cyntaf ar wyliwr yn y fan a'r lle, bydd tîm ymateb St John Ambulance Cymru yn mynd i'r dorf i roi triniaeth.
Esboniodd un unigolyn a fu’n gwirfoddoli am gêm Cymru v Ariannin y mis hwn yr ehangder o wahanol ddigwyddiadau y mae’n ymateb iddynt:
“Mae’n amrywio’n aruthrol, mae yna drawstoriad o gymdeithas yn yr adeilad ar unrhyw un adeg, felly mae’n hanfodol ein bod yn barod ar gyfer unrhyw beth.”
Mae Leigh Beere, Rheolwr Gweithrediadau Digwyddiadau Cenedlaethol St John Ambulance Cymru yn cerdded o amgylch y Stadiwm yn barhaus wrth iddi lenwi ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Ariannin, gan wirio bod gan wirfoddolwyr yr hyn sydd ei angen arnynt. Esboniodd;
“mae’r bobl hyn yn rhoi o’u hamser rhydd i helpu, felly rydym am wneud eu profiad y gorau y gall fod”.
Dywed Mark Williams Rheolwr Stadiwm Principality;
“Mae St John Ambulance Cymru wedi darparu gwasanaeth hanfodol i Stadiwm Principality ers dros 20 mlynedd. Hoffem ddiolch o galon i St John Ambulance Cymru a’r cannoedd o wirfoddolwyr sy’n cynnig eu hamser a’u harbenigedd ym mhob digwyddiad. Maent yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod profiad y gwylwyr yn un diogel a phleserus”.
Wrth gynllunio diwrnod yn y rygbi nid yw angen cymorth cyntaf fel arfer yn rhywbeth y mae pobl yn poeni amdano, ond mae St John Ambulance Cymru yno i sicrhau, os aiff rhywbeth o'i le, bod cefnogwyr yn y dwylo gorau posibl.
Os byddwch chi'n dechrau teimlo'n dost tra yn Stadiwm Principality, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n rhoi gwybod i stiward a fydd yn rhoi gwybod i St John Ambulance Cymru.
Os hoffech chi ariannu mwy o’n gwaith achub bywyd, cyfrannwch yn www.sjacymru.org.uk. Bydd eich rhoddion yn helpu i hyfforddi mwy o unigolion mewn sgiliau cymorth cyntaf hanfodol.